- Huna blentyn yn fy mynwes
- Clyd a chynnes ydyw hon;
- Breichiau mam sy'n dynn amdanat,
- Cariad mam sy dan fy mron;
- Ni cha' dim amharu'th gyntun,
- Ni wna undyn â thi gam;
- Huna'n dawel, annwyl blentyn,
- Huna'n fwyn ar fron dy fam.
- Huna'n dawel, heno, huna,
- Huna'n fwyn, y tlws ei lun;
- Pam yr wyt yn awr yn gwenu,
- Gwenu'n dirion yn dy hun?
- Ai angylion fry sy'n gwenu,
- Arnat ti yn gwenu'n llon,
- Tithau'n gwenu'n ôl dan huno,
- Huno'n dawel ar fy mron?
- Paid ag ofni, dim ond deilen
- Gura, gura ar y ddôr;
- Paid ag ofni, ton fach unig
- Sua, sua ar lan y môr;
- Huna blentyn, nid oes yma
- Ddim i roddi iti fraw;
- Gwena'n dawel yn fy mynwes
- Ar yr engyl gwynion draw.
Δεν υπάρχουν σχόλια:
Δημοσίευση σχολίου